Ffaith y dydd

Hafan

Mae Rhwydwaith Gweithredu Ieuenctid Abertawe (SYAN) yn uno pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd am gael effaith gadarnhaol ar eu cymuned. Rydym yn cydnabod bod ‘Pobl Ifanc yn Bwysig!’, bod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae ym mywyd eu cymunedau, a dylai eu hymrwymiad dderbyn hyfforddiant ac achrediad addas.

Ar hyn o bryd mae SYAN yn cefnogi 15 Grŵp Gweithredu Ieuenctid a arweinir gan gyfoedion, pob un yn canolbwyntio ar broblemau diogelwch cymunedol sydd yn eu cymdogaethau. Maent yn defnyddio cerddoriaeth, dawnsio stryd, theatr, celfyddydau gweledol ac amlgyfryngau i archwilio’r problemau cymunedol hyn. Dethlir eu gwaith yn flynyddol mewn digwyddiad lleol, gan arddangos cyflawniadau pob Grŵp Gweithredu Ieuenctid.

Mae SYAN yn croesawu aelodau newydd sy’n awyddus i gymryd rhan mewn cyfleoedd newydd, gwirfoddoli ieuenctid, adeiladu tîm a sgiliau. Oes diddordeb gennych? Cliciwch yma i gysylltu â gweithiwr prosiect.

Cyflwynir y fenter gan Ddinas a Sir Abertawe ac fe’i hariennir gan Gronfa Cymunedau Mwy Diogel Llywodraeth Cynulliad Cymru.